top of page
"Dwi wedi fy syfrdanu gan y sain anhygoel a safon chwarae yr ensemble. Mae'r egni a'r naws yn hudolus i ddweud y gwir. Rydych chi'n gwneud gwaith rhyfeddol."
Brian Finnegan, Flook
Player
AVANC yn cynrychioli criw o bobl ifanc disglair a thalentog tu hwnt o'n traddodiadau cerddorol sy'n ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o gerddorion gwerin ifanc. Mae nhw'n arbenigo mewn adfywio cerddoriaeth a fu'n gudd mewn manuscripts llychlyd hen lyfrgell ar hyd yr oesau, gan eu trawsnewid yn eu ffordd dihafal eu hunain i fod yn gampweithiau egnïol ac unigryw.
Dechreuodd y band fel Ensemble Gwerin Ieuenctid Cymru. Anelodd y prosiect gan Trac Cymru hyfforddi cerddorion ifanc oedran 18-25 mewn sgiliau cerddorol a fyddai'n eu ysgogi i ddilyn gyrfa fel cerddorion gwerin proffesiynnol, yn ogystal â chynrychioli cerddoriaeth gwerin Cymreig ar lwyfannau mawr. Eu tasg oedd i berfformio o safon uchel, gan ailddehongli cerddoriaeth draddodiadol Cymreig i gynulleidfaoedd newydd a chyfoes. Patrick Rimes oedd yn arwain yr ensemble, ynghÅ·d â'r tiwtoriaid Sam Humphreys a Gwen Màiri. Mae eu sain pwerus yn werth ei glywed gan griw o 12 aelod sy'n cynnwys offerynnau megis telynau teires, bagbibau a phump o glocswyr medrus.
bottom of page