top of page

AM

Avanc-Logo.png
AVANC-HeleddRoberts-15.jpg

"Wedi'i bilio fel“ band gwerin ieuenctid cenedlaethol Cymru, "ac wedi'i ymgynnull gan Trac Cymru, mae Avanc hefyd yn cymryd agwedd ran-grefft, rhan-nid tuag at y ffurf, ond mewn ffordd wahanol iawn. Eu datganiad diweddaraf, trac o'r enw Fitz. .. yn dechrau gyda'r hyn sy'n swnio fel drymiau digidol, yn colynio'n gyflym i hoedown â cham-drin Celtaidd ac yn y pen draw yn cyflogi'r clack prysur o ddawnsio clocsiau fel cefndir taro. "

- BuzzMag

CWRDD ÂG

Avanc-Logo.png
Elisa
Elisa
  • Facebook
  • Twitter

Delyn

ELISA MORRIS

Dechreuodd Elisa glocsio pan yn wyth mlwydd oed i osgoi gwersi nofio ar ôl i’r athrawes ceisio ei dysgu nofio dan dŵr. Wrth ddawnsio o gwmpas y byd fel rhan o Fro Taf a Nantgarw ddarganfyddodd Elisa ei chariad am gerddoriaeth gwerin. Yn 2018 fe alwodd hi un o’r twmpathau cyntaf gyda thermau di-ryw (gender-free) yng Nghymru ac mae hi eisiau i ddawnsio gwerin Gymreig fod mor groesawgar a hygyrch a phosib.

AVANC-HeleddRoberts-30.jpg
Rhys

RHYS MORRIS

Dechreuodd Rhys chwarae gitâr pan yn ifanc a darganfyddodd gerddoriaeth werin fel arddegwr. Ers hynny, mae e wedi perfformio ar draws y wlad i lawer o gynulleidfaoedd ac wedi bod yn diwtor ar gwrs Gwerin Gwallgo niver o weithiau.

AVANC-HeleddRoberts-32.jpg
Rhodri

RHODRI GIBBON

Mae cerddoriaeth o hyd wedi bod yn rhan annatod o gartref y Gibboniaid ac felly ym mywyd Rhodri. Dechreuodd chwarae’r recorder yn gyntaf ac mae’n dal i’w chwarae sydd yn anarferol am yr offeryn hwn. Arweiniodd chwilfrydedd Rhodri am gerddoriaeth iddo ddysgu nifer o offerynnau eraill yn cynnwys y delyn a’r soddgrwth yn ogystal â’r wy a’r pibau a welwch chi ef yn chwarae ar y llwyfan fel rhan o Avanc. Mae Rhodri yn hyderus mae’r pibau yw hoff offeryn ei rhieni oherwydd ei bod nhw’n gallu cael ei ddefnyddio i ofni cathod o’r ardd gefn. O ganlyniad i ymuno ag Avanc mae brwdfrydedd Rhodri am gerddoriaeth werin wedi tyfu. Nid yw Rhodri, erbyn hyn, yn medru dychmygu ei fywyd heb gerddoriaeth gwerin. 

AVANC-HeleddRoberts-35.jpg
Cery
Meg
AVANC-HeleddRoberts-50.jpg

MEG ELIZA COX

Mae Meg o Dde Cymru ac yn chwarae’r ffidl a’r bodhrán. Pan yr oedd hi’n 8 oed, mi roedd hi’n gystadleuydd brwd ar y bodhrán ac enillodd lle yn yr all-Britain Fleadh Cheoil. Ers hynny, er nad yw hi wedi tyfu lot yn dalach, mae hi wedi datblygu ei sgiliau ffidil drwy gerddoriaeth rhyng-geltaidd.
Er bod sail gerddorol Meg o fewn y traddodiad Gwyddelig, yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae wedi ei throchi yn y traddodiad Cymreig fel aelod o sawl band; AVANC yw’r mwya diweddar.

Meinir

MEINIR OLWEN

Mae Meinir Olwen yn delynores o ardal Aberystwyth. Dechreuodd chwarae cerddoriaeth draddodiadol Gymreig ar ddamwain ar ôl dod adref o wyliau wedi benthyg telyn fach. O fewn blwyddyn roedd y delyn fach wedi tyfu’n delyn deires chwe troedfedd ac roedd ei gwasgu i’r car yn dipyn o her! Er gwaetha maint y delyn mae Meinir wedi ei llusgo ar hyd a lled Cymru ac Ewrop. Pan nad ydi hi’n brwydro i gadw’r delyn mewn tiwn mae Meinir yn mwynhau dianc i fyny mynyddoedd a breuddwydio am orffen ei PhD mewn ieithyddiaeth.

AVANC-HeleddRoberts-53.jpg
Mared
AVANC-HeleddRoberts-56.jpg

MARED LLOYD

O Gwm Gwendraeth yn Sir Gar daw Mared. Mae hi wedi bod yn canu’r ffidil ac ymhél a cherddoriaeth gwerin ers yn ifanc iawn. Mae’n hoff o gymryd pob cyfle i hyrwyddo cerddoriaeth Cymraeg. Fel aelod o fand Beca a’i band teulu Mansant, mae hi wedi perfformio mewn amryw o wyliau dros y blynyddoedd. Er bod Mared yn adnabod ei hun fel cerddor traddodiadol yn bennaf, mae hefyd wedi derbyn hyfforddiant clasurol ac yn mwynhau arbrofi ag arddulliau cerddorol gwahanol. Ar hyn o bryd mae'n astudio gradd meistr mewn Bioleg Môr ym Mhrifysgol Bangor 

Harri

HARRI LLEWELLYN

Harri sydd ar yr acordion gydag AVANC; ynghyd ag unrhywbeth arall a ofynnir iddo’i wneud pe bai angen…
Nid o deulu cerddorol iawn y daw Harri ond fe’i anogwyd o oedran ifanc iawn i fachu ar gerddoriaeth. Er mai ar y ffidil y dechreuodd Harri ar ei daith yng nghylch cerddoriaeth werin Gymreig mae wedi bod yn chwarae’r acordion ers ychydig dros bum mlynedd erbyn hyn; er nid yw’n hoff iawn o frolio amdano gan mai hunan-addysgu a wnaeth gyda’r acordion.
Cynnwyd diddordeb Harri ym myd cerddoriaeth werin wedi iddo weld pennod o Noson Lawen le glywodd y band Calan am y tro cyntaf… ychydig yn hwyrach fe gafodd y cyfle i gwrdd ag aelodau’r band ynghyd ac aelodau’r grŵp Albanaidd, Breabach. Ers hynny bu’n cyfeilio i grŵp Dawnswyr Nantgarw, yn rhan o fand Nantgarw. Fel rhan o AVANC mae wedi blodeuo — cyn belled ei fod yn cadw pellter diogel i ffwrdd o’r pibau.

AVANC-HeleddRoberts-54.jpg
Sam
AVANC-HeleddRoberts-64.jpg

SAM PETERSEN

Mi roedd o’n amser o lawenydd mawr i’w rhieni pan, yn ei arddegau cynnar, dwedodd Sam wrthynt ei fod eisiau chwarae’r pibau. Fel rhan o deulu cerddorol roedd rhaid iddo wneud sŵn rywsut ac er gwaethaf ymgais byr i chwarae’r ffidil (pasio gradd 1), penderfynodd fod y pibau yn well. Bellach mae’n berchennog balch ar nid un ond dau gaita. Yn fwy diweddar mae o wedi datblygu cariad cynyddol at dôn ysgafn y chwibanogl isel. Gellir dod o hyd i Sam yn chwarae mewn sesiynau ac unrhyw le gwyntog â golygfeydd braf, yn ddelfrydol yn ei filltir sgwâr o Sir Benfro. Mae ei ffrindiau i gyd yn cytuno mai copa mynydd gwag yw’r lle gorau i ymarfer!

Siwan

SIWAN EVANS

Clocsiwr o Gaerdydd yw Siwan. Dechreuodd glocsio pan yr oedd hi’n ifanc ac erbyn hyn mae hi wedi teithio’r byd gyda’i chlogs fel aelod o amryw o fandiau a thimoedd dawnsio. Ei hofferyn gwreiddiol oedd y sacsoffon ond yn fuan datblygodd ei chariad at glocsio Cymraeg i gynnwys cerddoriaeth draddodiadol. Erbyn hyn y chwiban yw ei hoff offeryn er weithiau mae hi’n difaru peidio dysgu canu’r delyn fel bod hi’n gallu eistedd lawr ar ôl clocsio.
 

AVANC-HeleddRoberts-66.jpg
Osian
AVANC-HeleddRoberts-61.jpg

OSIAN GRUFFYDD

Yn wreiddiol o Bontypridd, Osian yw un o ffidlwyr y band. Ymunodd â’r sîn werin Gymreig yn ei arddegau wrth chwarae i wahanol fandiau, cyfeilio i ddawnsio gwerin a chystadlu mewn gwyliau.

 

Yn ogystal â cherddoriaeth gwerin mae Osian yn mwynhau gwrando ar gerddoriaeth ffilm wrth deithio i gigs ac mae hefyd yn cyfaddef fod e’n ffan o gerddoriaeth bop y gantores Norwyeg Sigrid.

Tanysgrifiwch i'n rhestr bostio!

Diolch am gyflwyno!

© 2025 gan Avanc

video ident trac only_edited.jpg
Ty Cerdd logo strip.jpg
ACW WG Colwinston_edited.jpg
bottom of page